Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 25 Ionawr 2021
Amser:
09.15 -
12.39
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11054
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Angela Burns AS Vikki Howells AS Delyth Jewell AS Rhianon Passmore AS Jenny Rathbone AS Llyr Gruffydd AS |
Tystion: |
Dr Sumina Azam, Iechyd Cyhoeddus Cymru David Anderson, Amgueddfa Cymru Professor Mark Bellis, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Tracey Cooper, Iechyd Cyhoeddus Cymru Kath Davies, Amgueddfa Genedlaethol Cymru Tegryn Jones, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Pedr ap Llwyd, National Library of Wales David Michael, National Library for Wales Clare Pillman, Cyfoeth Naturiol Cymru Mair Thomas, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Nia Williams, Amgueddfa Cymru Sian Williams, Cyfoeth Naturiol Cymru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Tim Buckle |
Staff y Pwyllgor: |
Tom Lewis-White (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor a hefyd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
2 Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Sesiwn dystiolaeth 7
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i'r Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus.
3 Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Sesiwn dystiolaeth 8
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i'r Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus.
4 Papur(au) i’w nodi
4.1 Nodwyd y papur.
4a Rhaglen Tynnu Asbestos yn Ysbyty Glan Clwyd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Trefniadau ar gyfer penodiadau staff uwch dros dro: Llythyr gan y Prif Weithredwr Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (16 Rhagfyr 2020)
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.